CROESOdiweddarwyd y dudalen hon 9 Tachwedd 2009Croeso i'n gwefan, ynddi cewch wybodaeth am ein hachos ac fe'ch gwahoddwn i ymuno â ni yn ein gwasanaethau. Capel yn perthyn i Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw Y Cysegr yn ffurfio Gofalaeth Glannau'r Saint gyda Eglwysi, Capel y Rhos, Llanrug a Chapel Caeathro a ymunodd a'r ofalaeth 1af Medi 2009.Cynhelir oedfa bob bore Sul am 10 o'r gloch gyda Ysgol Sul y plant yn cydredeg. Daw'r plant a'r athrawon i rannau dechreuol yr oedfa gan adael hefo'i hathrawon ar ôl y rhannau dechreuol.Ar ddiwedd 2008 nifer yr aelodau oedd 152 gyda 72 o blant bedyddiedig. Gweinyddir Swper yr Arglwydd bob yn ail fis ynghyd a'r Pasg a bore Dydd Nadolig. Ceir gwasanaethau arbennig gan blant yr Ysgol Sul i ddathlu Dydd Gwyl Dewi, Y Diolchgarwch a'r Dolig.
Capel y Cysegr
Newyddion
Ysgol Sul
Adref
Hanes
Gwybodaeth
Suliadur