Adref Newyddion Ysgol Sul Hanes Gwybodaeth Croeso Suliadur 

Gwybodaeth

Gwybodaeth diweddarwyd 02/04/09 Y Gweinidog: Parchedig Marcus Wyn Robinson.Cartrefle,Bethel,Caernarfon LL55 1UN Ffôn 01248671255Ysgrifennydd: Jenkin Griffiths, Llwyn Eithin,Bethel,Caernarfon LL55 1AX Ffôn: 01248/670102Nod yr Achos yn Y Cysegr yw darparu lle i addoli drwy ddarllen y Beibl, canu mawl a chlodfori Duw a gofalu yn ysbrydol am ofynion yr aelodau ac unrhyw un a ddymuna ymuno mewn addoliad. I hwyluso hyn derbynnir gwasanaeth Y Gweinidog ar y Sul ac ar achlysuron arbennig megis Bedyddiadau, Y Cymun Sanctaidd, Gwyl y Pasg â'r Nadolig, Priodasau ac Angladdau. Ar Suliau eraill ceir gwasanaeth pregethwyr eraill.Pwysleisir y dylid rhoi gwybod i unrhyw un o'r Blaenoriaid neu i'r Gweinidog am waeledd aelod.Gwasanaethau'r Sul: Pregeth am 10.00 ac Ysgol Sul i?r plant am 10.00.Gwasanaethau eraill:- Cymundeb ar Suliau arbennig trwy drefniant a'r Gweinidog.Cymundeb y Pasg a bore NadoligGwasanaeth Diolchgarwch yng nghwmni Plant yr Ysgol Sul.Gwasanaeth Nadolig yng nghwmni Plant yr Ysgol Sul.Bedyddio plant yr aelodau yn yr oedfaon yn ôl dymuniad y rhieni . Paratoi ieuenctid ar gyfer eu derbyn yn gyflawn aelodau.Y mae'r Capel wedi ei gofrestru ar gyfer priodasau. Dylai Cyflawn Aelodau sydd am wasanaeth y Gweinidog mewn Priodas neu Angladd gysylltu a'r Gweinidog neu'r Ysgrifennydd..Codir ffi am wasanaeth i rai nad ydynt yn gyflawn aelodau:-Angladdau £135Priodasau £155Nod yr Ysgol Sul yw cyflwyno?r plant i gynnwys y Beibl a phwysleisio eu dyletswydd at Grist a?u cyd-ddyn a dysgu iddynt y gwahaniaeth rhwng da a drwg.Bydd cyfrifoldeb ar bob cyflawn aelod i wneud ei orau i fynychu?r oedfaon a chyfrannu yn gyson at yr Achos. Darperir amlenni pwrpasol. Annogir y rhai sy'n talu Treth Incwm i arwyddo ffurflen 'Datganiad o Gymorth trwy Rodd i Gapel y Cysegr? fydd yn galluogi?r capel i gael ad-daliad o Swyddfa?r Dreth Incwm. Nod cyfraniad blynyddol yr aelodau am 2009 yw £150 y pen y flwyddyn. Gellir talu yn uniongyrchol bob mis o?ch Banc os dymunwch. Ffurflenni i'w cael gan unrhyw un o'r Blaenoriaid. Ni ddisgwylir cyfraniad llawn gan Gyflawn Aelodau ieuanc am dair blynedd ar ôl eu derbyn. Os na dderbynnir cyfraniad am flwyddyn yna tynnir yr enw o'r rhestr aelodau.Cyhoeddir Adroddiad Blynyddol ac fe ddosberthir copi i gartref pob aelod.Gellir cael mwy o fanylion gan unrhyw un o'r Blaenoriaid

Capel y Cysegr

Newyddion

Ysgol Sul

Adref

Hanes

Gwybodaeth

Suliadur

NAME="MWM_main" SRC="http://website.orange.co.uk/orange_uk_website/flash/mwm/http://website.orange.co.uk/orange_uk_website/flash/mwm/loader.swf" BASE="http://website.orange.co.uk/orange_uk_website/flash/mwm/" allowscriptaccess="always" WIDTH="800" HEIGHT="2880" QUALITY="high" PLAY="true" LOOP="false" QUALITY="high" swLiveConnect="true" pluginspage="http://www.macromedia.com/go/getflashplayer" type="application/x-shockwave-flash">