Adref Newyddion Ysgol Sul Hanes Gwybodaeth Croeso Suliadur 

Hanes

Hanes y Cysegr HANES CAPEL Y CYSEGR diweddarwyd 19.03.07Mae Capel y Cysegr wedi ei leoli ar y llaw dde ar y ffordd B4366 allan o bentref Bethel ar y ffordd i gyfeiriad Bangor, 3 milltir o Gaernarfon. CYFLWYNIAD Robert Owen, Disgwylfa, Llywydd Pwyllgor Adeiladau a THOMAS JONES, Bronant, Trysorydd allan o lyfryn Dathlu 100 mlwyddiant Y Cysegr. 1864 ? 1964?Gweddus ydyw i ni a gafodd y fraint o weled y ganrif gyntaf yn hanes yr eglwys yn dod i?w therfyn, ydyw cydnabod yr Arglwydd, ?yr Hwn biau?r gwaith? am ei amddiffyn drosom, a chydnabod hefyd lafur a gwasanaeth y rhai a alwyd ganddo, ac a freintiwyd i arwain yr eglwys drwy?r cenedlaethau. Hynny a?n symbylodd i gyhoeddi y llyfryn hwn, er yn ymwybodol iawn mai annheilwng iawn ydyw o?r amgylchiad arbennig hwn. Cyfyng iawn ydyw ein gofod i groniclo gweithgareddau Canrif. Ni ellir ond yn unig gofnodi enwau y rhai hynny a alwyd i fugeilio a?r rhai hynny a alwyd ac a freintiwyd i arwain gyda?r Achos.Dymunol fuasai helaethu ar eu nodweddion gwahanol a?u hamrywiol ddoniau. Diddorol hefyd fuasai galw i gof rhai o gymeriadau gwreiddiol a gofiwn; gwyr digon syml ac anllythrennog, rhai ohonynt, ond unplyg a didwyll, a byddai gwrando arnynt yn ymbil wrth yr orsedd yn foddion gras. Gobeithiwn y bydd y Dathliad hwn yn gyfrwng bendith i?r Eglwys, a gogoniant i Ben Mawr yr Eglwys.O?r eglwys yn Rhydfawr, Llanddeiniolen, y tarddodd eglwys y Cysegr, ohoni hi hefyd y tarddodd eglwys Glasgoed, gellid yn briodol iawn eu galw yn ddwy chwaer, wedi eu magu a?u meithrin ar yr un aelwyd. Adeiladwyd capel Rhydfawr yn y flwyddyn 1821. Adeiladwyd capel Glasgoed yn 1861, a chapel y Cysegryn 1864.Ffurfiwyd yr eglwys yn y Cysegr gyda 16 o aelodau, a ddaethant, rhai o gapel Rhydfawr, a?r rhai a ddaeth o gapel Tan-y-Maes ac o gapel Nasareth. Daeth yr achos yn Rhydfawr i ben yn 1867. Trowyd y capel yn dy yn dwyn yr enw Tan Dinas, Gwnaed telerau gyda?r Faenol i gyfnewid y capel am dir i deiladu y Cysegr arno.Wedi cychwyn yr achos yn y Glasgoed, nid oedd yn aros yn Rhydfawr ond un blaenor, sef Hugh Jones, Bryn Pistyll, a adweinid fel Hugh Jones y Gof, dyna oedd ei alwediagaeth yn y Felinheli. Yr oedd yntau erbyn hyn yn dechrau blino yn Rhydfawr, a?i fryd ar symud i Fethani, y Felinheli. Eithr ni fynnai Elin Jones, ei briod, ymuno ag ef, ei dewis hi oedd Brynmenai. Yr oedd y naill mor benderfynol a?r llall, a?r diwedd fu cytuno i geisio capel ym Methel. Yn fuan ar ôl hynny ceir hanes am Hugh Jones a Hugh Roberts, Tyddyn Andrew Isaf, yn ymlwybro i fyny yr allt ar nodon leuad, dywedir, mewn ymchwil am le cyfaddas i godi capel. Ni buwyd yn hir cyn penderfynu ar fangre lle saif y capel yn awr. ?Dyma le braf i godi capel,? ebe Hugh Jones, a pha ryfedd, gwyddai mor dda beth oedd ceisio addoli yn awyrgylch drymaidd Rhydfawr. Cymaint oedd sêl a brwdfrydedd Hugh Jones gyda?r achos fel y gelwid y capel yn gapel Hugh Jones. Galwyd y capelar enw Y Cysegr o ddewisiad William Herbert, Tyddyn Bach. Y gost o?i adeiladu ynghyd a?r ty capel oedd £1800.Oherwydd rhyw aflerwch anesgusodol gyda?r adeiladu aeth y capel yn beryglus i fynd iddo, ac ymhen pedair blynedd, bu raid ei dynnu i lawr a?i ai;-adeiladu, wedi ei helaethu yr ail waith. Heddiw, fodd bynnag, wedi herio stormydd Ganrif, saif gadarned ag erioed, wedi ei adnewyddu a?i harddu.Ar ddydd ei agoriad casglwyd £9 2s 9c. Gwneir cyfeiriad at sêl a brwdfrydedd Elin Jones, Bryn Pistyll, priod Hugh Jones, yn crwydro o gwmpas i gasglu tuag at gael llestri cymun i?r capel newydd. Priodol yw dyfynnu gwrogaeth un o?r blaenoriaid i?r brwdfrydedd cyffredinol, a?r llafur a roddwyd ynglyn â chodi y capel.?Anfynych yn ddiamau y gwelir arwyddion o gymaint o lafur cariad ynglyn ag achos crefyddol ac a ddangoswyd gan y frawdoliaerth yn y Cysegr ar gychwyniad yr achos. Yr oedd pawb o?r hynaf hyd y ieuangaf, wedi eu meddiannu â sêl a brwdfrydedd na welid ond yn anfynych ei gyffelyb.? Y mae yn llawen gennym dystiolaethu bod deuparth o?r ysbryd hwnnw yn aros hyd y dydd hwn.Y gwasanaeth cyntaf ynddo oedd pregeth ganol yr wythnos gan y Parch. Wiliam Herbert, ac agorwyd ef yn ffurfiol gyda Chyfarfod Ysgol y Sul dilynol. Yn ychwanegol at William Herbert, y ddau flaenor oedd yn cychwyn yr achos oeddynt Hugh Jones, Bryn Pistyll, a Solomon Jones, Tany buarth. Cymeriadau cryfion iawn (gweler ?Methodistiaeth Arfon, gan William Hobley). Oddeutu saith mlynedd cyn adeiladau y capel cychwynwyd yr Ysgol Sabothol. Ar y cychwyn yr oedd dwy gangen, y naill yng Nghae Metta, a?r llall yn Erw Fforch, cartref Humphrey Roberts, un o sylfaenwyr yr Achos Wesleaidd, yng nghapel Saron.Cyn hir unodd y ddwy gangen, a chynhaliwyd hi oddi ar hynny yn Tyddyn Andrew Isaf. Gwelir fod yr Ysgol Sabothol fel colomen Noa, yn chwilio am le i roddi ei thraed i lawr. Yno hefyd y pregethwyd y bregeth gyntaf gyda?r Methodistiaid, gan y Parch. Edward Roberts, Ceunant, yn 1857. Yr oedd Achos gyda?r Anibynnwyr ym Methel er 1810.Gwr a fu?n flenllaw iawn gyda?r Ysgol Sul, oedd Mr. Griffith D. Edwards, Penrhos, tad y diweddar David Edwards, a ddaeth yn wr amlwg gyda?r Wasg Saesneg, yn Olygydd y ?Daily News.?Dewiswyd William Herbert yn weinidog ar yr eglwys, ei gweinidog cyntaf yn 1873, a bu yn ei bugeilio hyd ei farwolaeth yn 1883. Yn wr cymeradwy iawn (gwel ?Methodistiaid Arfon? ? William Hobley) am ei ragoriaethau ef fel dyn a bugail, ac hefyd am y rhai o?i gyd-oeswyr. .....Y Sul, Awst 15, 15 1937, agorwyd y capel, wedi ei adnewyddu yn hollol oddi mewn, ac wedi ei dwymo ynghyda?r festri â thrydan. Pregethwyd y bore a?r hwyr gan y Parchn. Robert Lewis ac R.G. Roberts, y ddau oddiar yr un testun, sef Haggai ii, 9.Am ddau o?r gloch cyfranogwyd o?r Cymun Sanctaidd, pryd y bedyddiwyd Elizabeth, geneth fach Mr. a Mrs. Griffith Ellis Jones, Blaen-y-Parc. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Robert Lewis a Robert G. Roberts.?Nos Lun, Cyfarfod cyhoeddus. Llywydd, y Parch. Robert Lewis. Rhoddwyd adroddiad o ymdrechion yr eglwys gan Mr. John O. Pierce, Ty Mawr, yr Ysgrifennydd Ariannol. Bu ei lafur yn ddiarbed gyda?r gwaith, hefyd rhoddodd Mr. Richard Roberts, Fachell, blaenor hynaf yr eglwys, gipdrem ar yr achos o?i gychwyniad a?i ddatblygiad. Cymerwyd rhan gan amryw eraill.Nos Fawrth, pregethwyd gan y diweddar Barch. D.S. Owen, B.A. Anrhegwyd yr eglwys ar yr achlysur, ac yn goffadwriaeth am rai annwyl. Rhoddwyd Beibl hardd ar y pulpud gan y diweddar William Hugh Jones, Blaen y Parc, er cof am ei chwaer (Elizabeth Thomas), Gwern Alun. Gorchudd ar y pulpud gan Elizabeth Mary Thomas; Llyfr Emynau gan Elizabeth Prys Williams, Aelybryn, er cof am nain, Aelybryn a Phenrhos; Platiau casglu gan Mary Jones, Felin Ucha, Pentir, er cof am deulu y Gwyndu; Matiau gan y Parch. Robert Lewis a Mrs. Lewis. Bu y ddau o wasanaeth mawr i?r eglwys ar eu dyfodiad atom o Lanfaglan, Môn. Llestr blodau gan John Ivor Jones, Hendre; Awrlais gan Roberts & Owen, Caernarfon, trwy law Richard R. Roberts, Fachell, a bwrdd Emynau gan R.J. Hughes, Llanfairfechan, y Pen Saer.Talwyd gwrogaeth arbennig i John Ivor Jones, Hendre, Ysgrifennydd y Symudiad.Robert Owen, Disgwylfa, Llywydd Pwyllgor yr AdeiladauThomas Jones, Bronant, TrysoryddY Gweinidogion;Parchedig William Herbert 1873-1883Parchedig Henry Rees Davies 1889-1898Parchedig John Rowlands 1900-1907Parchedig Samuel Venmore Williams, BA 1909-1919Parchedig J. Glyn Williams, BA 1947-1957Parchedig Arthur Wynne Edwards BA.BD.1958-1964Parchedig R. E. Hughes 1967-1974 Parchedig W. R. Williams 1975-1999Parchedig Dafydd Lloyd Hughes 2001- Mehefin 2006Parchedig Marcus Wyn Robinson BD 2007 -

I'r dechrau

Capel y Cysegr

Newyddion

Ysgol Sul

Adref

Hanes

Gwybodaeth

Suliadur

NAME="MWM_main" SRC="http://website.orange.co.uk/orange_uk_website/flash/mwm/http://website.orange.co.uk/orange_uk_website/flash/mwm/loader.swf" BASE="http://website.orange.co.uk/orange_uk_website/flash/mwm/" allowscriptaccess="always" WIDTH="800" HEIGHT="2880" QUALITY="high" PLAY="true" LOOP="false" QUALITY="high" swLiveConnect="true" pluginspage="http://www.macromedia.com/go/getflashplayer" type="application/x-shockwave-flash">