diweddarwyd y tudalen hon Tachwedd 2009NOSON GOFFICynhelir noson goffi yn Festri'r Cysegr, Nos Iau, Tachwedd 26ain 2009 am 6.00 ymlaen. Elw'r noson at gronfa'r mur. Tocynnau £2.00 (Plant 50c. wrth ydrws). Dewch yn llu.TYNNU LLECHI CROG ODDIAR OCHR Y CAPELOherwydd derbyn adroddiad ar gyflwr gwael y llechi crog ar ochr y capel bu yn rhaid eu tynnu oddiyno. Felly canol haf eleni gwnaed y gwaith ac fe blastrwyd y wal, ac erbyn hyn mae yn ddiogel unwaith eto. Bu hyn yn gryn gost arnom ac fe apeliwn am gyfraniadau hael gan unrhyw un a ddymuna.DIOLCHGARWCH YSGOL SUL Y CYSEGR:Daeth nifer dda o aelodau, ynghyd â chyfeillion a rhieni i gefnogi plant yr Ysgol sul wrth iddynt ymgymeryd â'r gwasanaeth Diolchgarwch. Croesawyd pawb i'r Oedfa gan Geraint Elis. Thema'r cyflwyniad oedd 'Y Byd Mawr Crwn', a chafwyd cyfraniadau ar lafar ac ar gân gan pob dosbarth, ynghyd â darlleniadau i gyd fynd â'r thema gan yr Athrawon. I gloi cyfraniad y plant aethant i gyd i'r sêt fawr a chydganu 'Diolch i Ti Arglwydd am ein Byd Mawr Ni' a 'Mae Ganddo'r Holl Fyd yn ei Law'. Braf oedd cael cwmni Andrew Settatree, gweithiwr ieuenctid yr ardal, a bu iddo siarad yn ddifyr iawn efo'r plant am stori'r dwy dorth a phump pysgodyn. Diolochwyd i'r athrawon am addurno'r Capel, i Rita Williams am baratoi'r cyflwyniad ac i Gethin a Siôn wrth yr organ. Bydd y plant yn cael gwyliau o'r Ysgol Sul am ddwy wythnos - yna dechrau paratoi at y Nadolig!RHAGOR O FEDYDDIADAU Gorffennaf 2009Bedyddiwyd y plant canlynnol gan y Gweinidog mewn Gwasanaethau yn ystod y mis a thystiodd y gynulleidfa niferus yn cynnwys cysylltiadau y teuluoedd i'r Sacrament gan addo i' gyflwyno'r plant i ddysgeidiaeth a llwybrau'r Iesu.Thomas William GibsonElin Mared GibsonErin Medi CoxCari Bryfdir JonesTRIP YR YSGOL SUL i'r Wybrnant, Penmachno, sef cartref gwreiddiol yr Esgob William Morgan a oedd y cyntaf i gyfieithu'r Beibl cyfan i'r Gymraeg. Ar ol cyrraedd mwynhaodd pawb yn rhieni, cyfeillion ac athrawon yr Ysgol Sul pecyn bwyd a diod allan yn yr awyr agored. Difyr oedd mynd o gwmpas yr arddangosfa lle gwelwyd paneli yn croniclo hanes y cyfieithu, ac yn y ty rhoddwyd sgwrs ddiddorol gan geidwad yr adeilad a chafodd pawb gyfle i brofi amgylchiadau byw yn y cyfnod, lle 'roedd yr ystafelloedd yn dywyll iawn gan fod y ffenestri mor fach. Ar y ffordd adref galwyd ym Metws y Coed i bob plentyn gael hufen ia, ac ambell i oeolyn hefyd! 'Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn a diolch i Geraint Elis am yr holl drefniadau. Ty Mawr Wybrnant Cael picnic Plant yr Ysgol Sul Athrawon yr Ysgol SulNEWYDDION BEDYDD ARALLCafwyd Sacrament o fedydd yn ddiweddar pan fedyddiwyd Gwydion Ifan mab bach Lois (gynt o Tan y Cae), a John Lloyd, y teulu erbyn hyn yn byw yn Rhuthun. Braf oedd cael cwmni'r Gweinidog a nifer fawr o gyfeillion a theulu i dystio i'r achlysur.YSGOL Y SUL. Gwyl Ddewi 2009Braf oedd cael cwmni nifer o rieni, perthnasau a chyfeillion yn cyd-addoli yn ddiweddar mewn gwasanaeth arbennig gan blant yr Ysgol Sul. Croesawyd pawb i'r Oedfa gan Geraint Elis. Gan fod Gwyl Ddewi wedisyrthio ar y Sul priodol felly oedd cyflwyno hanes Dewi Sant ar lafar ac ar gân, a bu i holl blant yr Ysgol Sul gymeryd rhan. Cychwynwyd gyda phawb yn cyd-adrodd 'Dydd Gwyl Ddewi hapus' ac yn dilyn cyfraniadau gan pob dosbarth diweddwyd gyda'r gân 'Cymro da oedd Dewi Sant'. Ar ddiwedd y gwasanaeth cafwyd anerchiad pwrpasol gan Llion Williams ac yna diolchodd Geraint Elis i Rita Williams am drefnu'r cyflwyniad ac i'r athrawon am baratoi'r plant. Penderfynwyd bod y casgliad rhydd yn mynd tuag at Gronfa Joshua Clarke, felly cafodd cyfeillion Y Cysegr gyfle i gefnogi'r ymgyrch i godi arian er budd y plentyn bach. Cyfanswm y casgliad oedd £152.60.DOLIG 2008Cynhelir Gwasanaeth y Cymun Bendigaid yng Nghapel Y Cysegr ar fore Dydd Nadolig am 10 o'r gloch yng nghwmni y Gweinidog Parch Marcus Wyn Robinson ac aelodau o Eglwysi y cylch. Dewch i ymuno a ni eleni yn yr oedfa i gychwyn y dydd mewn awyrgylch Gristnogol. Bydd unrhyw roddion ariannol a dderbynnir yn cael eu trosglwyddo i gynllun 'Efe'.YSGOL SUL: Nadolig 2008 Braf oedd gweld y Capel yn llawn i wasanaeth Nadolig arbennig gan blant yr Ysgol Sul. Yn dilyn gair o groeso gan Geraint Elis cafwyd stori'r geni gan y plant lleiaf, pob un wedi gwisgo fel angel, bugail, neu w^r doeth. Wrth gwrs roedd rhaid cael Mair a Joseff hefyd. SEREN oedd y thema yn yr ail hanner a chafwyd darlleniadau a cherddi gan y plant hyn i gyd fynd a'r thema. I gloi'r cyflwyniad bu i?r holl blant ganu 'Un seren Wen', a chyn canu'r emyn olaf siaradodd y Gweinidog efo'r plant, gyda neges amserol. Talwyd gair o ddiolch i'r athrawon am bob cymorth tuag at y paratoi, i Siôn, Manon a Gethin am gyfeilio wrth yr organ, i Glenys am lunio'r gwasanaeth, ac i Edwina am addurno?r Capel. Cyflwynwyd cyfanswm y casgliad rhydd, sef £137.50 i Childline Cymru (NSPCC).Y FEDAL GEE i GORONWY JONES, dydd Iau Mai 15ed 2008 Llongyfarchiadau i Goronwy Jones, Cilan ar gael ei anrhydeddu yn ddiweddar gan dderbyn y fedal Gee mewn Cyfarfod Gwobrwyo ffyddloniaid yr Ysgol Sul. Aeth llond bws o'i gydaelodau a chyfeillion ynghyd â'i weinidog i Rhuthun i dystio i'r achlysur. Dyma aelod cyntaf o'r capel i dderbyn yr anrhydaedd sydd yn cael ei gyflwyno i rai sydd wedi cyfrannu i'r Ysgol Sul ac i'r capel am flynyddoedd. Mae Goronwy Jones wedi bod yn aelod ffyddlon a gwerthfawr yn y Cysegr ers 1948. Fe ddechreuodd dosbarth yr ifanc yn 1949, a hefyd bu'n llywydd ar y cyfarfod wythnosol am ddeuddeg mlynedd. Ym 1951 fe'i codwyd yn arolygwr yr Ysgol Sul, ac yna yn flaenor yn 1963.Bedydd.Yn ystod oedfa'r bore, yn ddiweddar bedyddiwyd Iwan Thomas plentyn bach Mark Anthony a Shioned Wyn Worsley, Bro Eglwys gan y Gweinidog y Parchedig Marcus Wyn Robinson. Roedd nifer dda o'r teulua chyfeillion yn bresennol.Bedydd arall Mai 11, 2008Unwaith eto cafwyd gwasanaeth bedydd yn oedfa'r bore, sef bedydd Iwan Thomas Worsley mab i Mark a Shioned Worsley, Bro Eglwys, Bethel. Dyma yr unfed bedydd ar ddeg ers i'r Gweinidog ddod atom. Cynhaliwyd y Sacrament o fedydd yng ngwydd llu o'r aelodau a'r teluoedd a ddaeth ynghyd i'r gwasanaeth ar fore Sul hyfryd.Bedydd arall Ebrill 2008Mae'r Gweinidog yn brysur iawn yn ymateb i ofynion rhieni ifanc yn y cylch ac yn falch o'r cyfle i fedyddio eu plant yn y Capel. Ar y 13eg o'r Mis bedyddiwyd Cadi Glain, merch fach Hefin a Sarah Evans, Ty Ffynnon. Gwnaed hyn mewn oedfa ar fore Sul, gerbron plant yr Ysgol Sul, cynulleidfa dda o aelodau, llu o gyfeillion a pherthnasau y teulu, nifer fawr ohonynt wedi teithio i fyny o gyfeiriad y Drenewdd a'r Trallwng.GWASANAETH Sul y Pasg Mawrth 23 2008:Ar fore Sul y Pasg cafwyd gwasanaeth arbennig dan ofal y Gweinidog y Parchedig Marcus Wyn Robinson pan dderbyniwyd dau o blant yr Eglwys yn gyflawn aelodau. ?Roedd Siôn Elwyn Hughes a Dyfan Coles wedi bod yn mynychu?r dosbarth derbyn ar y cyd gyda ieuenctid o?r chwaer Eglwys Capel y Rhos, Llanrug. Cymerodd y ddau ran yn y gwasanaeth drwy ddarllen rhannau pwrpasol o?r Ysgrythur, ac i gofio am yr achlysur cyflwynwyd copi o Caneuon Ffydd a thystysgrif aelodaeth i Siôn a Dyfan gan Ysgrifennydd y Capel, Jenkin Griffiths, a dymunwyd yn dda iddynt i?r dyfodol. Yna yn dilyn, arweiniwyd pawb at Fwrdd y Cymun gan y Gweinidog.GWASANAETH Sul y Blodau Mawrth 16 2008:Gwasanaethpwyd gan Mr Alun Rowlands, Berea, Bangor. Cafwyd anerchiad ganddo i?r plant a phregeth rymus addas at Sul i?n harwain i fyny at y Pasg. Sicrhaodd y Gweinidog hefyd fod pob teulu, oedd yn bresennol, yn derbyn croes, wedi ei gwneud allan o bren y balmwydden, i fynd adref gyda nhw i?w hatgoffa o?r wythnos fawr. GWASANAETH Sul y Mamau a Gwyl Dewi 2008:Plant yr Ysgol Sul oedd yng ngofal yr Oedfa fore Sul diwethaf a chafwyd ganddynt ddau gyflwyniad. Gan mai Sul y Mamau oedd y diwrnod, cafwyd cyflwyniad yn gwerthfawrogi'r Fam gan y plant lleiaf - pob un yn diolch i Mam am amrywiol bethau. Yna cafwyd cefndir Sul y Mamau a rywfaint o hanes y gacen Simnel sy'n cael ei chysylltu a'r diwrnod arbennig hwn. I gloi 'r cyflwyniad yma canodd pawb gyda'u gilydd "Mae'n Sul y Mamau". Siaradodd Richard Lloyd Jones yn ddifyr gyda phawb cyn i'r plant hyn gyflwyno hanes Dewi Sant a chyd ganu "Ar Ddydd Gwyl Dewi Sant" ar y diwedd. Diolchodd Geraint Elis i Rita a Glenys am baratoi y gwasanaeth, i'r athrawon am eu cymorth, i Gethin am gyfeilio ac i'r holl blant a gymerodd rhan. Braf oedd gweld nifer o rieni a chyfeillion wedi dod ynghyd i gefnogi'r plant a chyd addoli. Mewn gwasanaeth arbennig yn dilyn bedyddiwyd mab bach i Gethein a Leanne sef, Leo Alfie Williams, Fron Heulog, Stryd Bach, SaronBedydd arall 2008Fore Sul Chwefror 10ed Bedyddiwyd Ela Gwenllian Branch plentyn i Catrin Angharad Hughes-Branch a Christian Lee Branch, Crawia gyda'r Gweinidog yn gwasanaethu. Fel arfer gwnaed hyn yn oedfa'r bore ger bron aelodau'r Capel, cyfellion a holl blant yr Ysgol Sul a'u hathrawon. Cafwyd gwasaneth hyfryd gartrefol gyda cynulleidfa deilwng.YR YSGOL SULAr hyn o bryd (Chwefror) mae plant yr Ysgol Sul yn cychwyn paratoi ar gyfer gwasanaeth arbennig ar Sul Mawrth 2ail i ddathlu Dewi Sant Nawddsant Cymru a chan bod Sul y Mamau ar yr un dyddiad penderfynwyd dathlu y ddau achlysur ar yr un SulBedyddiadau eto yn ystod 2007Bu'r Gweinidog yn brysur yn ystod y flwyddyn ac yn ychwanegol at y bedydd a nodwyd am Fis Mehefincafwyd dau fedydd ym Mis Medi sef Gwenllian Medi Owen a Lois Angharad Llwyd Jones ac ym Mis Rhagfyr bedyddiwyd Siwan Haf White. YSGOL SUL Y CYSEGRFel gweithgaredd i orffen tymor yr Ysgol Sul am Orffennaf 2007, yn lle y trip arferol, mae'r athrawon wedi penderfynu cynnal taith gerdded noddedig i gefnogi Meurig Huws, tad dwy o enethod yr Ysgol Sul, yn ei ymgyrch i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Bwriedir cynnal y daith gerdded nos Iau nesaf, Gorffennaf 5ed, gan gychwyn o'r Cysegr am 6.30 yh. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael i unrhyw un sy'n dymuno troi i fewn i'r Feastri o 7 o'r gloch ymlaen a chael cyfle i gymdeithasu a'r Gweinidog y Parchedig Marcus Wyn Robinosn a Meurig Huws.BEDYDDIADAU AR SUL MEHEFIN 10.Bedyddiwyd dau blentyn ar y Sul uchod gan y Gweinidog o flaen cynulleidfa da gan gynnwys llawer o delu a ffrindiau y rhieni. Dymunwn yn dda iddynt i'r dyfodolFFENESTRI DWBWL I'R CAPELNewyddion da. Erbyn heddiw (3 Mehefin 2007) cwblhawyd gosod dwy ffenestr dwbwl UPVC newydd arall i'r Capel. Felly mae pob un o ffenestri mawr y Capel wedi cael ei newid. Fel y gwyddoch mae 8 ffenestr fawr ar ochrau'r Capel. 'Roedd ffesnstri'r Festri a'r Gegin eisioes wedi eu newid fel yr adroddwyd o dro i dro yn yr Adroddiad Blynyddol. CYMANFA DOSBARTH PADARNCymanfa Ganu Dosbarth Padarn yn y CysegrTorrwyd tir newydd eleni wrth gynnal y Gymanfa yn y bore, a hynny yma yn y Cysegr. Arweinwyd y Gymanfa gan Glenys Griftiths gyda Deilwen Hughes wrth yr Organ. Cymerwyd rhan yn y defosiwn agoriadol gan Iwan Harper, Lowri Ann Griffith a Gethin Griffiths. Llywyddwyd y cyfarfod gan Gerailt Elis, Arolygwr Ysgol Sul y Cysegr.PRIODASAU.Eisioes mae tair priodas wedi eu trefnu sef ar Gorffennaf 28, 2007Awst 3, 2007Hydref 5, 2007 i?w gadarnhauBEDYDDIADAUPlentyn i?w bedyddio ar Sul Mai 27, 2007 Pwyllgor Gweithiwr Ieuenctid i ddalgylch Eco?r Wyddfa yn y Cysegr ar 6ed Mehefin PEINTIOPeintio addasiadau y toiled ac ati yn y Cysegr.Yn sytod y dyddiau nesaf ar ôl derbyn cyngor gan Swyddog o Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ar liwiau addas i?w defnyddio mae gwirfoddolwyr wedi cytuno i wneud y gwaithASESU RISG TÂN YN Y CYSEGRAeth y Gweinidog a?r Ysgrifennydd i gyfarfod arbennig yn Seilio, a drefnwyd gan yr Henaduriaeth, i dderbyn arweiniad gan Swyddog o?r Gwasanaeth Tân ar sut i wneud asesiad risg. Tân. Yn ffodus i ni bydd un o?n haelodau, sef Collwyn Williams (cyn swyddog gyda?r Gwasanaeth Tân yn gallu gwneud y gwaith ar ein rhan.
I'r dechrau
Capel y Cysegr
Newyddion
Ysgol Sul
Adref
Hanes
Gwybodaeth
Suliadur